Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 28 Medi 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


91(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

Diweddariad Datganiad Busnes

Bydd y Trefnydd yn rhoi diweddariad ar y Datganiad Busnes

</AI4>

<AI5>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI5>

<AI6>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI6>

<AI7>

5       Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

(60 munud)

NDM8078 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar ddeiseb P-06-1276 - Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

(30 munud)

NDM8077 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd 10,572 o lofnodion.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canser gynaecolegol

(60 munud)

NDM8082 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod mis Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.

2. Yn mynegi ei phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor yw'r un gynaecolegol, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod.

3. Yn gresynu at y ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.

4. Yn nodi ymhellach ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o fenywod sy'n gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gynnal adolygiad brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;

b) sicrhau bod cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd gynaecolegol; ac

c) cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.

</AI9>

<AI10>

8       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM8076 Joel James (Canol De Cymru)

Dŵr yng Nghymru: yr heriau sy'n ymwneud â thlodi dŵr a'i safon

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8080 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Mapio moroedd Cymru: buddsoddiad yn ein dyfodol gwyrdd a glas

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Hydref 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>